Quantcast
Channel: DACW – Developing a Caring Wales
Viewing all articles
Browse latest Browse all 20

Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant

$
0
0

BYDD ACADEMI Mentora Cymheiriaid llwyddiannus Cyfle Cymru yn cael gwobr arbennig gan y Dywysoges Anne.

Mae’r Academi yn un o ddim ond 48 o fentrau hyfforddi i dderbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol – sy’n cydnabod dysgu rhagorol yn y gweithle ledled y DU eleni.

Mae’r cynllun yn cynnig cymysgedd ymarferol o hyfforddiant yn y gwaith a chymwysterau ffurfiol, ac mae ar gael i bob mentor sy’n gweithio ar brosiect Cyfle Cymru a ariennir gan yr UE ledled Cymru. Ei nod yw gwella’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol a phersonol sydd ar gael i’r staff mentora, gan gofio eu bod hwythau hefyd wedi cael profiadau o gamddefnyddio sylweddau a dioddef o gyflyrau iechyd meddwl eu hunain.

Dim ond llond llaw o raglenni elusennol a thrydydd sector fel yr Academi sydd wedi derbyn y fath wobr a ddeisyfir gan gynifer o sefydliadau a dim ond pump arall trwy Gymru gyfan sydd wedi cael eu gwobrwyo. Maent yn ymuno â chorfforaethau byd-eang mawr fel GSK, RBS, Lloyds Banking Group, Tata Steel ac IBM ar y rhestr o sefydliadau sydd wedi derbyn y gwobrau. Mae’r wobr yn dilyn proses ymgeisio drylwyr, sy’n cynnwys ymweliad asesu ffurfiol a thystebau gan staff y prosiect.

Mae pob mentor cymheiriaid yn cael ei gofrestru’n awtomatig yn yr Academi pan fyddant yn dechrau gweithio gyda Cyfle Cymru, ac yn symud ymlaen trwy dair haen y rhaglen wrth iddynt feithrin a chynyddu eu profiad a’u harbenigedd.

 

Wrth bodd

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect Lynn Bennoch fod mentoriaid cymheiriaid Cyfle Cymru yn “asedau gwych” ac yn hanfodol i gyflawni’r prosiect.

“Mae llwyddiant Cyfle Cymru yn seiliedig ar ddoniau a gwaith caled ein mentoriaid cymheiriaid ac rydym mor falch bod ein hymdrechion i gefnogi datblygiad proffesiynol y staff hyn wedi cael eu cydnabod mewn ffordd mor amlwg,” meddai.

“Mae Academi Mentora Cymheiriaid Cyfle Cymru yn cynnig cyfle i’n mentoriaid gael mynediad at gyfleoedd pellach yn y gwaith, a pharhau i ddatblygu eu gyrfa. Mae hefyd yn sicrhau canlyniadau ar gyfer ein prosiect trwy gynyddu ein gallu a gwella’r canlyniadau y gallwn eu cyflawni.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein rhaglen wedi cael ei chydnabod gan Wobrau Hyfforddi’r Dywysoges Frenhinol, ac y gellir cyfrif Cyfle Cymru ymhlith carfan mor drawiadol o enillwyr.”

Cefnogwyd y cais gan brif weithredwr CAIS, Clive Wolfendale.

“Bellach mae model mentora cymheiriaid Cyfle Cymru yn cael ei gydnabod yn eang fel y ffordd fwyaf effeithiol o fynd ag unigolion difreintiedig ar daith i ffyniant personol sefydlog ac annibynnol,” meddai.

“Nid oes unrhyw un mewn sefyllfa well i gefnogi cyfranogwr na mentor sydd wedi bod ar siwrnai debyg ei hunain. Mae Academi Mentora Cymheiriaid Cyfle Cymru yn sicrhau bod gan fentoriaid yr offer, yr hyder a’r gefnogaeth i gyflawni’r gwaith trawsnewidiol hwn.”

 

Rhyfeddol

Mae’r wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno mewn seremoni arbennig yn Llundain yn ddiweddarach eleni, yn anrhydedd i gyflogwyr y DU sydd wedi creu effaith barhaol trwy gysylltu eu hanghenion datblygu sgiliau yn llwyddiannus â pherfformiad busnes.

Mae tua 150 o dderbynwyr o ystod eang o sectorau wedi cyflawni safon rhagoriaeth y cynllun dyfarnu mewn hyfforddiant ers lansio’r rhaglen yn 2016. Rhoddir gwobrau yn dilyn dyfarniad Comisiwn Gwobrau Hyfforddi’r Dywysoges Frenhinol – sy’n cynnwys saith o gyrff blaenllaw yn y gymuned busnes, dysgu a datblygu ac Ei Mawrhydi y Dywysoges Frenhinol, sy’n Llywydd corff trefnu’r gwobrau, City & Guilds Group.

Dywedodd prif weithredwr City & Guilds, Chris Jones: “Unwaith eto, rydym wedi gweld ystod rhyfeddol o geisiadau llwyddiannus ar gyfer safon Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol.

O’r sector gyhoeddus i gorfforaethau byd-eang, o feithrin llwybrau talent i ddatblygu gwytnwch personol, mae hyn oll yn dystiolaeth o’r effaith real iawn y mae buddsoddi mewn uwchsgilio staff yn ei gyflawni. Llongyfarchiadau i’r holl sefydliadau hynny sydd wedi cyflawni’r safon ragoriaeth ofynnol – rydych chi’n ysbrydoliaeth i ni i gyd!”

Am fwy o wybodaeth am Cyfle Cymru cliciwch yma, drwy ffonio 0300 777 2256, anfon e-bost ask@cyflecymru.com neu chwiliwch am Cyfle Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

 


Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.

Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

WEFO ESF OOWS

 

 

The post Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant appeared first on DACW - Developing a Caring Wales.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 20

Trending Articles